Cyflwyniad i Fferm Ynni Solar Elwy
Ers dechrau’r flwyddyn rydym wedi bod yn gwerthuso tir i’r gogledd-ddwyrain o Lanelwy ar gyfer datblygu fferm ynni solar. Mae’r safle i’r gogledd o Wibffordd Gogledd Cymru yr A55 ac i’r gorllewin o’r A525.
Dewiswyd y safle yn ofalus oherwydd ei botensial i gyflenwi trydan â phŵer solar i’r grid. Gyda prosiect solar arfaethedig o 62 MWp, byddai’r safle yn cynhyrchu bron i 60 awr gigawat o drydan y flwyddyn, digon i bweru dros 20,000 o gartrefi, trwy amrywiaeth o baneli solar wedi’u gosod ar lawr gwlad. Rydym yn bwriadu gosod batris ar y safle fel y gellir storio a defnyddio pŵer solar ar unrhyw adeg pryd bynnag y mae ei angen; ddydd neu nos.
Ers mis Chwefror eleni, rydym wedi bod yn ymgynghori â chymunedau Llanelwy a Bodelwyddan. Mae’r broses ymgynghori honno wedi dod i ben erbyn hyn, ac rydym yn gobeithio cyflwyno’r cais cynllunio yn fuan.
Cymru adnewyddadwy 100%
Mae Cymru wedi ymrwymo i darged ynni o sero-net erbyn 2050 – a gellir ond cyflawni hynny drwy gynyddu faint o drydan adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu; er bod Cymru ar hyn o bryd yn darparu llai na 3% o’i thrydan drwy ynni solar. Mae Solarcentury yn siŵr y gallwn, ac y dylwn, gyrraedd y targed hwn llawer cynt na hynny.
Gallai fferm ynni solar Elwy fod yn gam pellach yn y broses o drawsnewid ynni, gan rwystro 560,000 tonnes o garbon deuocsid rhag dianc i’r atmosffer, a chynhyrchu digon o drydan glân, adnewyddadwy ar gyfer 20,000 o gartrefi. Os mai’r dewis yw niwclear neu danwydd ffosil ochr yn ochr â solar, mae’n ddewis amlwg.
Gall gynnig buddion eraill hefyd – grantiau cymunedol, ardrethi busnes, y potensial am gytundebau cyflenwi lleol hyd at £400,000, a chyfle i wella bioamrywiaeth leol, gyda rheoli cynefinoedd hirdymor hefyd yn rhan allweddol o’n cynlluniau.
Darllenwch fwy am fuddion ffermydd ynni solar fan hyn.
Mae angen ystyried nifer o ffactorau’n ofalus iawn wrth ddod o hyd i leoliad addas ar gyfer prosiect ynni solar.
Mae’r cynllun hwn wedi’i leoli y tu allan i Lanelwy, yn Sir Ddinbych, ar dir fferm i’r gogledd o Wibffordd Gogledd Cymru yr A55. Mae caeau, tai preifat a ffermydd yn ei amgylchynu yn ogystal â phriffordd yr A525. Mae’r ddelwedd hon yn dangos y lleoliad yn fras.
Dewiswyd y safle hwn yn ofalus fel rhan o broses ddichonoldeb fanwl sy’n cynnwys ystyried ardaloedd dynodedig, math o dir a lefelau ynni solar. Dadansoddwyd cysylltiadau’r grid trydan lleol i nodi lle ceir capasiti i dderbyn y symiau o drydan sy’n cael ei gynhyrchu. Mae nifer fawr o arolygon yn cael eu cynnal neu wedi cael eu gwneud, fel ecoleg, tirwedd a’r perygl o lifogydd ymhlith ffactorau eraill i gadarnhau y byddai’r tir yn addas i’w ddefnyddio fel fferm ynni solar.
Ynglŷn â Solarcentury
Yn gweithredu ers dros ugain mlynedd, rydym yn un o’r cwmnïau solar mwyaf hirhoedlog ac uchaf ein parch yn y byd, gyda 1.3 GWp o brosiectau ar draws Ewrop, America Ladin ac Affrica.
Rydym yn bodoli i wneud pŵer solar yn beth cyffredin ac i newid y byd ynni: yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.
Mae’n rhaid i ni fod yn ddi-garbon erbyn 2030 er mwyn osgoi anrhefn hinsawdd. Mae Solarcentury yn galw ar arweinwyr gwleidyddol a busnesau, landlordiaid, datblygwyr a chymunedau i newid i solar.
Mae diogelu ein cyflenwad ynni i’r dyfodol, cynnal a gwella safonau byw byd-eang a sicrhau amgylchedd iach yn waddol i genedlaethau’r dyfodol. Darllenwch fwy am safbwyntiau Solarcentury ar anrhefn hinsawdd fan hyn.
Yn Solar Elwy, bydd Solarcentury yn rheoli’r broses gyfan – o gamau cynnar ymgysylltu â’r cyhoedd, hyd at gyflwyno cais cynllunio, i gyllido, adeiladu a gweithredu’r fferm ynni solar.
Bydd yn ymgysylltu â chymunedau Llanelwy a Bodelwyddan cyn cyflwyno unrhyw gais cynllunio, a rydym yn croesawu unrhyw awgrymiadau a safbwyntiau gan gymunedau.
Newyddion Solar Elwy
Dweud eich dweud
Diolch yn fawr am eich adborth. Mae’r ymgynghoriad ar gyfer y fferm ynni’r haul hon wedi cau erbyn hyn, ond os oes angen i chi gysylltu â ni, gallwch wneud hynny fel y nodir isod:
Os ydych yn gyflenwr lleol neu’n gosod offer y gallai fod eu hangen ar y prosiect, cofrestrwch eich manylion drwy’r arolwg hwn*.
*Yn Solarcentury rydym wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd ac i gydymffurfio â deddfau diogelu data a phreifatrwydd y DU. Mae ein polisi preifatrwydd yma yn egluro sut rydym yn casglu, defnyddio, rhannu a diogelu gwybodaeth bersonol. Cyn cwblhau’r holiadur Survey Monkey, cadarnhewch eich bod wedi darllen, deall a derbyn y polisi preifatrwydd.
This website uses cookies which are essential for the website to work. We also use non-essential cookies to help improve your user experience. Any data is anonymised. By continuing to use this website you agree to our use of cookies. View our Cookie policy for further information Cookie Policy
The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.