Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi datgan argyfwng hinsawdd wrth gydnabod y bygythiad dirfodol a achosir gan gynhesu byd-eang. Rydym wedi ymrwymo i darged ynni o sero-net erbyn 2050, er ein bod yn cynhyrchu llai na 4% o’n trydan o ynni solar ar hyn o bryd. Mae Solarcentury yn siŵr y gallwn, ac y dylwn, gyrraedd y targed hwn llawer cynt na hynny.
Yr allwedd i’r frwydr yn erbyn anrhefn hinsawdd
Mae’r frwydr yn erbyn anrhefn hinsawdd yn frwydr dros warchod bywyd gydag aer y gellir ei anadlu, dŵr glân, systemau tywydd sefydlog, ecosystemau amrywiol a digonedd o adnoddau naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae solar yn allweddol i’r frwydr hon, dull sydd wedi’i brofi i leihau ein hallyriadau carbon.
Gwella’r amgylchedd
Y bygythiad mwyaf i fywyd gwyllt y DU yw cynhesu byd-eang a distrywio cynefinoedd.
Isel o ran effaith, isel o ran cynnal a chadw
Diogelu ein cyflenwad ynni yn y dyfodol, cynnal a gwella safonau byw byd-eang a sicrhau amgylchedd iach yw ein gwaddol i genedlaethau’r dyfodol.
Rydym yn galw ar arweinwyr gwleidyddol a busnesau, landlordiaid, datblygwyr a phartneriaid eraill i newid i solar.
Darllenwch fwy am safbwynt Solarcentury ar anrhefn hinsawdd fan hyn.
Dweud eich dweud
Rydym yn croesawu eich adborth cyn gynted â phosibl yn y broses gynllunio er mwyn sicrhau ein bod wedi ystyried safbwyntiau pawb. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni os hoffech roi adborth ar ein cynlluniau sydd i’w gweld yn y rhan Dogfennau Cyfeirio o’r wefan hon:
Os ydych yn gyflenwr lleol neu’n gosod offer y gallai fod eu hangen ar y prosiect, cofrestrwch eich manylion drwy’r arolwg hwn.
*Yn Solarcentury rydym wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd ac i gydymffurfio â deddfau diogelu data a phreifatrwydd y DU. Mae ein polisi preifatrwydd yma yn egluro sut rydym yn casglu, defnyddio, rhannu a diogelu gwybodaeth bersonol. Cyn cwblhau’r holiadur Survey Monkey, cadarnhewch eich bod wedi darllen, deall a derbyn y polisi preifatrwydd.
This website uses cookies which are essential for the website to work. We also use non-essential cookies to help improve your user experience. Any data is anonymised. By continuing to use this website you agree to our use of cookies. View our Cookie policy for further information Cookie Policy
The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.