Fferm Ynni Solar Elwy –Rheoli ein busnes yn ystod Covid 19
Ein prif flaenoriaeth yw iechyd, diogelwch a lles ein staff, ein cydweithwyr, ein partneriaid a’r cymunedau’r ydym yn eu gwasanaethu – a gweithredu’n gyfrifol yn ystod y pandemig hwn.
Mae ein holl dimau swyddfa yn gweithio o adre ar hyn o bryd. Mae Solarcentury wedi buddsoddi mewn offer gweithio o bell dros y blynyddoedd diwethaf, ac o’r herwydd mae’r timau’n gallu gweithio o adref. I lawer o bobl, mae angen mwy o hyblygrwydd – yn enwedig i’r rheini sydd â phlant gartref. Mae Solarcentury wastad wedi cynnig patrymau gweithio hyblyg ac mae ein timau swyddfa yn dal i weithredu fel hyn i sicrhau bod y gwaith i gyd yn cael ei gyflawni.
Mae pawb sy’n gwneud gwaith paratoi ar gyfer Fferm Ynni Solar Elwy yn dilyn canllawiau diweddaraf y Llywodraeth. Bydd y rhai sy’n methu â gweithio o adref yn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Mae ecolegwyr a gweithwyr proffesiynol amgylcheddol wedi derbyn goddefeb gan DEFRA i barhau â’u gwaith yn yr awyr agored, gan gynnwys gwaith tirfesur a goruchwylio ecolegol, cyn belled â’u bod yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Lloegr, https://www.gov.uk/guidance/social-distancing-in-the-workplace-during-coronavirus-covid-19-sector-guidance.
Meddai Chris Banks, Rheolwr Datblygu Busnes y DU yn Solarcentury, “Nid ydym wedi rhoi’r gorau i weithio ar Fferm Ynni Solar Elwy ond mae’r achosion Coronafeirws wedi golygu y byddwn yn gohirio pethau. Rydyn ni nawr yn gobeithio cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y fferm ynni solar ddechrau mis Medi 2020, gyda’r ymgynghoriad ffurfiol cyn cyflwyno’r cais cynllunio yn dechrau ym mis Mehefin (yn amodol ar y cyfyngiadau a fydd ar waith bryd hynny).
“Rhwng nawr a phryd hynny bydd Solarcentury yn parhau i wneud y gwaith paratoi sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn gan gynnwys yr asesiadau tirlun ac ecolegol, y gwaith cysylltu â’r grid, a manwl gyweirio’r dyluniad.
“Mae sefyllfa’r Coronafeirws yn gwneud inni ailfeddwl sut byddwn yn cyflwyno gwybodaeth ac yn cysylltu â chymunedau lleol a rhanddeiliaid eraill rhwng nawr a chyflwyno’r cais cynllunio. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar gynllun ar gyfer sut byddwn yn gwneud hyn ac rydym yn gobeithio gallu rhannu hwn yn gyhoeddus yn fuan. Gallwch ddal i anfon cwestiynau am y cynllun drwy lythyr, e-bost a dros y ffôn – fel o’r blaen – ac mae aelodau o’n tîm bob amser yma i helpu”.
Mae gwybodaeth newydd am y Coronafeirws i’w chael yn yr adran Cwestiynau Cyffredin ar wefan y prosiect develop.solarcentury-refresh.greenlightdigital.com/cy/elwy/cwestiynau-cyffredin
–Y Diwedd–
Nodiadau i Olygyddion:
Mae Solarcentury, un o brif gwmnïau pŵer solar y DU, yn gwerthuso tir i’r gogledd-ddwyrain o Lanelwy ar gyfer datblygu fferm ynni solar newydd – Fferm Ynni Solar Elwy.
Saif y tir dan sylw i’r gogledd o ffordd yr A55 yn y gogledd ac i’r gorllewin o’r A525 ac fe’i dewiswyd yn ofalus am ei botensial i gyflenwi lefelau uchel o drydan sy’n cael ei bweru gan yr haul i’r grid. Prosiect solar o hyd at 62MWp sydd dan sylw yma – byddai’r safle’n cynhyrchu tua 60 gigawat yr awr o drydan y flwyddyn sy’n ddigon i bweru dros 20,000 o gartrefi, drwy gyfrwng llu o baneli solar wedi’u gosod ar y ddaear. Mae Solarcentury hefyd yn bwriadu gosod batris ar y safle er mwyn storio’r trydan a gynhyrchir i’w ddefnyddio yn ystod y dydd a’r nos.
Sefydlwyd Solarcentury yn 1998, mae’n gwmni pŵer solar integredig byd-eang, ac yn arweinydd ar weithgareddau datblygu, adeiladu a gweithredu prosiectau solar a thechnoleg ynni deallus o bob maint, ledled Ewrop, America Ladin ac Affrica.
Mae Solarcentury yn gwmni annibynnol sydd â’i bencadlys yn y DU. Mae’n adnabyddus yn rhyngwladol am ddatblygu ac adeiladu rhai o’r ffermydd solar mwyaf yn y DU, yn yr Iseldiroedd, Sbaen, Cenia a Mecsico, yn ogystal â phrosiectau arloesol eraill gan gynnwys pont solar gyntaf y byd yng Ngorsaf Blackfriars yng Nghanol Llundain ac arlwy solar cartrefi IKEA yn Ewrop.
I gae rhagor o wybodaeth am y cwmni ewch i develop.solarcentury-refresh.greenlightdigital.com/about
Os oes gennych gwestiynau ynglŷn a’r datganiad i’r wasg hwn cysylltwch â Nicola Perkin ar 0207 549 1299.